Mae gan Alun ddealltwriaeth ddofn a safbwynt prin ynghylch sut gellir integreiddio atebion digidol mewn strategaeth fusnes gydlynol.
'Nes i raddio o Brifysgol Morgannwg gyda gradd Technoleg Gwybodaeth yn 1997, a dechreuais fy ngyrfa fel ymgynghorydd technegol gyda Logica.
Roedd gweithio i Logica wedi dysgu llawer i fi am ddatblygu rhaglenni yn y byd go iawn, gan ysgrifennu cod ar ambell brosiect sylweddol iawn, gan gynnwys Rheoli Traffig Awyr, Rheoli Traffig, Logisteg Fyd-eang a Systemau Tracio Asedau.
Wrth i fwrlwm y rhyngrwyd dyfu, ges i gyfle i ymuno â chwmni teledu rhyngweithiol cyffrous, oedd yn tyfu'n gyflym, o'r enw Yes TV, fel ei arbenigwr llwyfannau a thechnoleg yn rhedeg timau ar draws Llundain, Hong Kong, Los Angeles a Sydney.
Yn 2003, 'nes i ddechrau fy nghwmni fy hun, wedi'i rannu rhwng y Deyrnas Unedig a Chaliffornia, i ddatblygu gwasanaeth dosbarthu fideos ar-lein o dan frand Blockbuster. Ar ôl hyn, 'nes i aros ar y West Coast, yn helpu cwmnïau newydd i fireinio eu strategaethau technegol a masnachol, a darparu diwydrwydd dyladwy a chynrychioli'r bwrdd ar ran y gymuned fuddsoddi.
Yn 2010, ges i gynnig i gefnogi Rhaglen Esiamplwyr Digidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig cyn mynd ymlaen i arwain tîm TG mewnol y DVLA (dros 300 aelod o staff) pan oedd yn gadael ei gyflenwr digidol ar y pryd, ac yn pontio staff a gwasanaethau ohono. Mae creu sefydliad TG byd newydd, gyda'r sgiliau a'r model gweithredu cysylltiedig, yn ddull sydd wedi cael ei gymeradwyo a'i ddefnyddio fel esiampl ar draws y sector cyhoeddus.
Ers sefydlu Empyrean rwyf wedi arwain amrywiaeth eang o brosiectau cyflawni technegol, gan weithio gyda llywodraeth, asiantaethau gweithredol, cydweithfeydd ffermio mawr, a'r trydydd sector. Fy uchafbwynt personol yw gweld y tîm yn tyfu gan barhau i adlewyrchu ethos Empyrean.
Mae gen i restr eclectig o ddiddordebau personol. Rwy'n mwynhau teithio ac wedi darllen llyfrau gwych mewn siopau coffi ym mhedwar ban byd. Rwy'n gerddor medrus ond mae teithio gyda gwaith wedi fy rhwystro rhag ymarfer cymaint ag y dylwn i. Rwy'n mwynhau chwarae gemau, rhai fideo a rhai bwrdd, ac rwy'n dilyn datblygiad y diwydiannau gemau gyda'r un brwdfrydedd.