Cynorthwyydd Galluogi Offer Deallusrwydd Artiffisial
Rydyn ni’n gallu gweithio law yn llaw â chi i ddeall ble mae offer deallusrwydd artiffisl ‘oddi-ar-y-silff’ megis Microsoft Copilot ac OpenAI, ChatGPT yn gallu cyflawni gwerth i’ch sefydliad. Mae hyn yn cynnwys adnabod cyfleoedd, adeiladu achos busnes cadarn ar sail eich nodau (arbed amser/cost/cyfrif pennau), rhoi offer ar waith a’i osod gyda’ch staff, a mesur y dychweliadau ar fuddsoddiad. Mae ein staff yn gweithio ochr yn ochr â’ch timau i’w uwchsgilio i allu gwella’n gyson fel mae offer yn esblygu.
Deallusrwydd Artiffisial mewn Prosesau Busnes
Er bod rhoi datrysiadau nwyddau deallusrwydd artiffisial megis Copilot ar waith yn gallu cyflawni dychweliadau cyflym, yr hyn rydyn ni wedi darganfod gyda’n profiad yw bod canlyniadau uwch yn gallu digwydd trwy osod deallusrwydd artiffisial o fewn eich prosesau busnes. Gall hyn fod yn ychwanegu AI Agent i gynorthwyo gyda drafftio cyfathrebiadau gyda chwsmeriaid, crynhoi galwadau cyn eu gosod yn eich system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) i ganiatáu i’ch staff allu canolbwyntio ar waith safon uchel, neu adnabod mewnwelediadau hanfodol o ddogfennau achos mewn system rheoli achosion. Mae ein tîm yn gweithio gyda’ch swyddogaethau busnes a thechnoleg i ddeall y cyfle ac yna creu prototeipiau o ddatrysiadau sy’n dilysu effeithlonrwydd y dull.
Cylched Bywyd Datblygu Meddalwedd (SDLC) a ysgogir gan Asiant
O fewn Empyrean rydyn ni’n defnyddio datblygiad meddalwedd ‘human-in-the-loop’ i dorri amser ein meddalwedd cyflawni a chost dros 50%. Mae ein rheolaeth cyflawni arbenigol a ymgynghorwyr Agentic AI yn gallu gweithio gyda’ch tîm digidol i chwistrellu Asiantau Deallusrwydd Artiffisial i mewn i gylch bywyd eich datblygu meddalwedd i dorri amser cyflawni a chynyddu’r nifer o ailadroddiadau cludadwy eich cynnyrch. Nid gwella amser codio yw hyn yn unig, rydyn ni’n gweithio ar draws y Cylched Bywyd Datblygu Meddalwedd (SDLC) cyfan, yn creu Asiantau Deallusrwydd Artiffisial i weithio ochr yn ochr gyda’ch staff i wella gofynion, rheoli cynnyrch, dylunio profiad defnyddwyr, profi, gweithredu, a datblygiad. Gallwch weld beth allwn ni ddatgloi gydag yrwymiad 2 wythnos gyflym.
Trawsnewid gyda Deallusrwydd Artiffisial
Un darn o’r jig-so yn unig yw deallusrwydd artiffisial ar gyfer trawsnewidiad busnes a thechnoleg gyfan; gallwn ddarparu ein hoelion gwasanaeth cyfan i gyflawni trawsnewidiad busnes a thechnoleg gyfannol gyda deallusrwydd artiffisial wedi’i sefydlu. Gwelwch ein dull i drawsnewid a sut rydyn ni’n cyflawni trawsnewidiad mewn ffordd gydweithredol a ysgogir gan ddefnyddwyr
Addysg a Newid Busnes Deallusrwydd Artiffisial (AI)
Mae ein harweinwyr deallusrwydd artiffisial yn gallu cyflawni sesiynau addysg deallusrwydd artiffisial i helpu datgyfrinio technoleg a lleihau’r ofn o ddeallusrwydd artiffisial drwy addysg. Rydyn ni’n cynnig hanner diwrnod o sesiynau arweinyddiaeth Bwrdd a Gweithredu am ddim, ac yn ychwanegol yn gallu cyflawni rhaglenni hyfforddi llawn ar draws eich sefydliad. Mae gennym hefyd arbenigwyr newid busnes sydd yn gallu gosod eu hunain yn eich sefydliad i helpu eich rhaglenni newid glanio’n well.
Os oes gennych ddiddordeb mewn trafod prosiect gyda ni, cysylltwch, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych.
Cysylltwch â ni