Ein cleientiaid
Rydyn ni'n falch o gynnig gwasanaethau digidol o'r dechrau i'r diwedd, o drawsnewid, i adeiladu, a chefnogi yn y pen draw.
Mae Empyrean yn cynnig cymysgedd unigryw o berchnogaeth cynnyrch, ymchwil defnyddwyr, dylunio'n seiliedig ar y defnyddiwr, strategaeth ddigidol ac arbenigedd mewn datblygu gwefannau, wedi'i adeiladu ar ddegawdau o brofiad cyfunol. Mae Empyrean yn cynnig safbwynt unigryw wedi'i ategu gan brofiad a chyfanrwydd ymarferol. Rydyn ni'n gweithio gyda chleientiaid i ddiffinio eu strategaethau digidol, gan fanteisio ar ein profiad ymarferol i arbed amser ac ymdrech.
Ychydig o’n gwaith
-
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gwella cyngor iechyd i bobl Cymru

-
Swyddfa Eiddo Deallusol
Trawsnewid gwasanaethau yn Swyddfa Eiddo Deallusol

-
Y Comisiwn Elusennau
Gwella gwasanaethau’r trydydd sector.

Pwy ydym ni?
Mae tîm Empyrean yn cynnwys amrywiaeth eang o arbenigedd ac angerdd. Yr hyn sydd gan bob un ohonom ni'n gyffredin yw dyhead i gyflawni i'r eithaf i'n cleientiaid. Rydyn ni'n canolbwyntio ar ddod i'ch adnabod chi a'ch nodau er mwyn gallu meithrin perthynas barhaol.
Mae Empyrean yn ymrwymo i gyflawni allyriadau Sero Net erbyn 2040. I wneud hyn, rydym yn mesur ein hallyriadau carbon, yn ymarfer amryw o strategaethau i leihau allyriadau ac yn cofnodi cynnydd yn flynyddol. Mae ein Carbon Reduction Plan ar gael isod. Yn Saesneg yn unig mae’r cynllun ar gael.






















