Neidio i'r cynnwys

Technoleg a data

Datrysiadau technoleg maint cywir a diduedd

Rydyn ni’n awgrymu datrysiadau technegol ar sail cost gyfan y berchnogaeth a’r ffit gorau ar gyfer eich anghenion gan ddefnyddio ein profiadau unigryw ar draws technoleg gyfredol.

Cyngor technoleg ddiduedd

Rydyn ni’n helpu timau ddeall eu dewisiadau, gwneud penderfyniadau technolegol cytbwys a throi strategaeth i lwybr cyflawni clir. Boed yn siapio map trywydd technoleg, asesu platfformau sydd eisoes yn bodoli neu’n cefnogi penderfyniadau buddsoddi.

Rydyn ni’n agnostig ynghylch technoleg, felly mae ein hargymhellion ar sail y ffit gorau, nid llawn tuedd ar gynghreiriau masnachol.

Sarnïaeth a adeiladwyd o amgylch y gwasanaeth

Rydyn ni’n dylunio saernïaeth technoleg sydd yn ddiogel, gwydn ac yn ffit i bwrpas, gan ddefnyddio datrysiadau ar flaen y gad ble mae hynny’n briodol. Gan edrych ar draws cymwysiadau, integriadau, data a seilwaith, rydyn ni’n helpu timau ddeall sut mae systemau angen gweithio law yn llaw a lle bydd newid yn creu’r gwerth mwyaf.

Mae ein dull yn rhoi golwg cliriach i sefydliadau ar ddibyniaethau, risgiau a chyfleoedd, wrth greu sylfaen gref ar gyfer cyflawni yn y dyfodol.

Data sy’n cefnogi penderfyniadau gwell

Rydyn ni’n helpu sefydliadau troi data i mewn i fewnwelediad y gall pobl ei defnyddio.

Trwy ddadansoddi data, modelu ac adrodd, rydyn ni’n dod â gwybodaeth ynghyd mewn ffordd sydd yn glir, hygyrch ac ar gyfer ein cleientiaid.

Mudo data yn hyderus

Gall mudo data rhwng systemau fod yn un o’r rhannau gyda’r risg uchaf mewn trawsffurfiad. Rydyn ni’n cefnogi mudo data o ddarganfod a chynllunio ymlaen i lanhau, mapio, dilysu a gweithredu, gan helpu timau amddiffyn safon data a lleihau amhariad.

Rydyn ni’n arbenigo mewn dylunio trawsnewidiad sydd yn dadrisgio mudo etifeddiaeth gan ddylunio newid, rhedeg cyfochrog a thorri dros ganlyniadol yn ofalus.

Os oes gennych ddiddordeb mewn trafod prosiect gyda ni, cysylltwch, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych.

Cysylltwch â ni