Datgloi gwerth gwasanaeth
O ddarganfod i beta a byw, rydyn ni’n gweithio fel tîm cyfunol i gasglu mewnwelediadau ar sail tystiolaeth gan hen ddefnyddwyr a defnyddwyr newydd.
Rydyn ni’n ffynnu ar herio’r norm a helpu cleientiaid ddeall beth all eu gwasanaethau fod yn hytrach nag ail-greu beth sydd ganddyn nhw’n barod gyda thechnoleg newydd.
Pobl profiadol wedi’u gosod yn eich tîm
Mae ein tîm profiadol o Berchnogion Cynnyrch, Ymchwilwyr Defnyddwyr, Dylunwyr Gwasanaeth a Dadansoddwyr Busnes wedi arwain nifer o raglenni cymhleth ar draws amryw o sectorau a darparu her, ymarfer gorau a galluogrwydd dylunio profiadol i’n cleientiaid. Rydyn ni’n teilwra fframweithiau trosglwyddo gwybodaeth gadarn ac yn helpu ein cleientiaid newid o fodelau gweithredu traddodiadol i rai ar sail gwasanaeth.
Llwyddiant blaenorol
Rydyn ni’n dilyn egwyddorion dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddwyr sefydledig ac yn eu cymhwyso mewn amgylchoedd dylunio cymhleth. Roedd rhai o’n harweinwyr yn rhan o raglenni enghreifftiol cynnar Gwasanaeth Digidol Llywodraeth (GDS) ac wedi helpu siapio’r dull dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddwyr gwreiddiol, gan roi sylfaen gref am beth sy’n edrych yn dda a sut i gyflawni hynny i’n timau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn trafod prosiect gyda ni, cysylltwch, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych.
Cysylltwch â ni