Rydyn ni wedi cael y pleser o weithio gyda Nofio Cymru am y tair blynedd ddiwethaf. Dros y cyfnod hwn rydyn ni wedi cydweithio'n agos i ddatblygu, cefnogi a chynnal eu cynnyrch digidol allweddol. Fel rhan o'u gweddnewidiad digidol parhaus, gofynnwyd i ni ddatblygu gwefan newydd iddyn nhw.
Mae'r wefan yn ddwyieithog, yn gwbl ymatebol ac yn cynnwys siop, map rhyngweithiol ac ardal sy'n cynnwys gwybodaeth gorfforaethol/llywodraethol a dadansoddiad llawn. Roedd gan y wefan flaenorol dros 140 o dudalennau ac fe wnaethon ni fudo'r tudalennau a'r cynnwys yn awtomataidd i leihau'r gwaith i Nofio Cymru.
Mae'r wefan wedi lansio'n llwyddiannus ac mae ar gael yma os hoffech chi daro golwg!
Diolch o galon i Empyrean Digital am eu gwaith caled yn ein helpu ni i roi profiad ar-lein rhwydd i'n haelodau ac i'r cyhoedd.
Fergus Feeney, Prif Weithredwr Nofio Cymru