Skip to content

Lansio Citbag Chwaraeon Cymru!

Mae'n bleser gennym ni gyhoeddi lansiad Citbag gan ein cleient Chwaraeon Cymru. 

Mae Citbag yn hwb ar-lein newydd sy'n cynnwys cannoedd o adnoddau i helpu plant i fod yn heini. Ei nod yw helpu athrawon, hyfforddwyr ac arweinwyr gyflawni'r Cwricwlwm newydd i Gymru.

 

Gofynnodd Chwaraeon Cymru i Empyrean ddylunio ac adeiladu llwyfan dwyieithog a chwbl ymatebol i fod yn gartref i gannoedd o adnoddau. Roedd brîff Empyrean hefyd yn cynnwys diweddaru'r adnoddau i wneud yn siŵr eu bod yn hygyrch i bawb.

Roedd y prosiect Ystwyth hwn yn cynnwys ymchwil defnyddwyr, gwneud prototeipiau, profi a hyfforddi, gan gyflawni'r ateb llawn mewn amserlen dynn iawn. 

Mae'r wefan wedi lansio'n hynod lwyddiannus gyda lefelau defnydd gwych, ac rydyn ni wedi cael adborth ardderchog gan Chwaraeon Cymru.

Mae modd cael rhagor o wybodaeth a chofrestru ar gyfer Citbag yma.

 

Rwy'n credu mai'r peth mwyaf cadarnhaol yw bod ein timau wedi cyd-dynnu ac wedi gweithio'n dda gyda'i gilydd. Eu cryfder yw gweithio i amserlen a gallu dirprwyo gwahanol dasgau i wahanol aelodau o dîm Empyrean, fel Azure B2C. Mae hyn wir wedi lleddfu'r pwysau ar ein tîm prysur.

Paul Batcup, Rheolwr Cyfathrebu Digidol, Chwaraeon Cymru