Skip to content

Telerau ac Amodau

Defnydd a Ganiateir

Rhoddir caniatâd i ymwelwyr â'r wefan gael gafael ar ddeunyddiau cyhoeddedig (cynnwys) yn amodol ar y telerau hyn. Drwy ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i fod yn rhwym wrth y telerau defnyddio.

Er gellir cael gafael ar gynnwys, ei lwytho i lawr a'i ddefnyddio at ddibenion personol a dibenion anfasnachol (e.e. ymchwil preifat, astudiaeth neu ddefnydd mewnol); ni chaiff ymwelwyr ailgynhyrchu nac ailgyhoeddi unrhyw ddeunydd o'r wefan hon heb ganiatâd perchennog y wefan / yr hawlfraint.

Ni a/neu trydydd partïon sy'n berchen ar y delweddau, y logos a'r graffeg a ddefnyddir ar y wefan hon. Ni ddylid defnyddio'r rhain heb gael caniatâd perchennog yr hawlfraint. 

Rydych yn cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol mewn perthynas â'r wefan hon yn berchen i Iechyd Cyhoeddus Cymru, fel corff lletya Cydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru a, lle bo'n berthnasol, i bartneriaid trydydd parti.   

Gwybodaeth Bersonol

Pan fyddwch, o'ch gwirfodd, yn cyflwyno data y gellir ei ddefnyddio i'ch adnabod ar y wefan hon (gan gynnwys cyflwyno'r ffurflen gyswllt, deunyddiau neu gyrsiau hyfforddi, holiaduron ac ati), caiff y wybodaeth a gyflwynir ei defnyddio dim ond i ymateb i'ch ymholiadau ac at ei diben bwriadedig. Nid ydym yn rhannu gwybodaeth am ddefnyddwyr gwe â thrydydd partïon.

Diogelu rhag Feirysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i archwilio a phrofi deunyddiau am feirysau. Fodd bynnag, argymhellir eich bod yn rhedeg rhaglen gwrthfeirysau ar bob deunydd sy'n cael ei lwytho i lawr o'r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu niwed i'ch data neu eich system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd o'r wefan hon. 

Ymwadiad

Cymerir gofal i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Er hynny, caiff cynnwys ei ddarparu fel gwybodaeth gyffredinol yn unig ac rydych chi'n ei ddefnyddio ar eich menter eich hun. Ni fyddwn yn atebol am ddifrod neu golled o ganlyniad i unrhyw weithred neu anwaith sy'n deillio o ddefnyddio gwybodaeth ar y wefan hon.   

Gwefannau Allanol

Nid yw Empyrean Digital yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau y mae dolen iddynt. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am gynnwys na chanlyniadau dilyn unrhyw gyngor ar wefannau o'r fath. Ni ddylid ystyried bod rhestru yn gymeradwyaeth o unrhyw fath. 

Ni allwn sicrhau y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig na dros newid i gyfeiriad gwefannau.

Mae Empyrean Digital yn cadw'r hawl i wrthod neu dynnu dolenni i unrhyw wefan. 

Nodwedd Google Translate 

Mae nodwedd Google Translate wedi'i alluogi ar y wefan hon, gan gynnig cyfieithiadau wedi'u darparu gan Google™ Translate, gwasanaeth trydydd parti nad oes gan Empyrean unrhyw reolaeth drosto. Nid yw tudalennau wedi'u cyfieithu yn rhan o'r wefan wedi'i lletya ac nid oes ganddynt unrhyw gyswllt â pharth Empyrean. 

Mae'r gwasanaeth hwn yn gyfieithiad awtomataidd gan gyfrifiadur ac felly ni fydd un berffaith, a bydd yn dueddol o wneud camgymeriadau na fyddai person yn ei wneud. Dylid defnyddio'r cyfieithiad fel canllaw bras yn unig. Nid yw Empyrean yn derbyn atebolrwydd mewn unrhyw ffordd am gywirdeb y cyfieithiadau hyn nac am unrhyw golled o ganlyniad i'w defnyddio.  

Diwygiadau yn y Dyfodol

Bydd newidiadau dilynol i'r telerau hyn ar gael ar y wefan hon.