Skip to content

Datblygu Atebion

O ganfod i gynhyrchu, gallwn ni gynnig help ar gyfer pob cam o ddatblygu systemau. Gan ddefnyddio ein harbenigedd mewn technolegau blaenllaw a rhai sydd wedi ennill eu plwyf/hŷn, rydyn ni'n eich helpu i gyflawni eich nodau drwy broses ddatblygu ystwyth, gan eich cefnogi bob cam o'r ffordd.

Dwi'n meddwl mai'r peth mwya' cadarnhaol yw bod ein timau wedi cyd-dynnu a bod ein personoliaethau'n cyd-fynd. Mae Grace wedi gwneud gwaith ardderchog yn cadw trefn ar yr adnoddau. Mae gweithio i amserlen a gallu gadael gwahanol dasgau i chi,

Paul Batcup, Rheolwr Cyfathrebu Digidol, Chwaraeon Cymru

Yn wahanol i lawer o asiantaethau creadigol, mae gennym ni arbenigedd ymchwil defnyddwyr yn fewnol, felly mae ein tîm yn gallu cynnal gweithdai canfod yn ogystal â dylunio a datblygu cynnyrch digidol sy'n rhoi defnyddwyr wrth galon y dyluniad.

Rydyn ni wedi hen arfer defnyddio methodolegau Ystwyth ond gallwn ni fod yn hyblyg i addasu i anghenion cleientiaid, gan gytuno ar ddull gweithredu sy'n gweithio i bawb ar ddechrau prosiectau. Rydyn ni'n rhannu ein dull, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn gweithio fel un tîm pan fydd hyn yn fuddiol i'r cleient.

Dyma brif nodweddion ein proses ddatblygu:

  • Dilyn methodolegau Llawlyfr Dylunio Gwasanaethau Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth
  • Canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr, a'r profiad a'r defnyddioldeb i ddefnyddwyr
  • Dull datblygu ailadroddus (gwella'n barhaus)
  • Canolbwyntio ar ansawdd, gan ddefnyddio prosesau datblygu, profi awtomataidd a defnyddio sy'n seiliedig ar brofi
  • Profiad o amrywiol fethodolegau cyflawni, gan gynnwys Ystwyth, Rhaeadr, Hybrid
  • Profiad o atebion wedi'u lletya, yn y cwmwl a hybrid
  • Cylch oes prosiect llawn (o'r cychwyn cyntaf i weithredu)
  • Gwasanaethau dylunio mentrau, atebion a diogelwch ar gael
  • Medrus mewn technolegau perchnogol a ffynhonnell agored
  • Gwybodaeth fanwl o safonau agored