Mae Greg yn ysgogi prosiectau gwella masnach, cynnyrch a busnes ledled y byd, a hynny yn y sector cyhoeddus a phreifat, ac ym marchnadoedd B2B a B2C.
Yn 2005 'nes i raddio mewn Dylunio Diwydiannol ym Mhrifysgol Brunel cyn mynd i Gaerdydd i wneud cwrs Meistr mewn Datblygu Cynnyrch. 'Nes i ddechrau fy ngyrfa fel peiriannydd dylunio, gan symud o ymgynghoriaeth fach i Panasonic a'i raglen arweinyddiaeth fyd-eang. Roeddwn i'n ddigon lwcus i gael gweithio a hyfforddi ym mhob cwr o'r byd, ac roeddwn i'n mwynhau proses weithgynhyrchu draddodiadol y farchnad nwyddau defnyddwyr, sy'n newid yn gyflym.
Roedd y traddodiadau hyn wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn y Bathdy Brenhinol hefyd, lle 'nes i a thîm bach ddatblygu technoleg arloesol a wnaeth arwain at nifer o batentau a gwobr arloesi genedlaethol. Gan edrych yn ôl, y prosiect a roddodd y mwyaf o foddhad i fi oedd cyfuno technoleg flaenllaw â chadwraeth a threftadaeth brand y Bathdy Brenhinol i ddyfeisio a chyflawni'r arian digidol cyntaf yn ei hanes - 1,100 o flynyddoedd.
'Nes i barhau i weithio yn y byd digidol gyda thîm dawnus a brwdfrydig yn PwC; gan gefnogi prosiect mewnoli TG enfawr yn y DVLA, a rhaglen trawsnewid digidol gyda'r tîm yng Ngwasanaeth Digidol y Llywodraeth. Roedd gweithio ar fentrau mor uchel eu proffil yn brofiad gwych a rhoddodd ddealltwriaeth go iawn i fi o drawsnewid gwasanaethau, a chyflawni newid.
Yn fwy diweddar, dwi wedi bod yn gwbl gyfrifol am gynllunio ar gyfer y farchnad, dylunio gwasanaethau a datblygu cynnyrch ystwyth ar gyfer atebion hunaniaeth, twyll a chredyd defnyddwyr yn LexisNexis, cwmni grŵp 15 FTSE. Roedd y rôl hon yn cynnig ymreolaeth go iawn a thîm technoleg talentog i adeiladu gwasanaethau newydd o'r cwr; doeddwn i erioed wedi meddwl byddwn i'n ymddiddori mewn systemau cefn a dadansoddi data mawr, ond roeddwn i wrth fy modd!
Ar hyd fy ngyrfa, mae data a thechnoleg wedi dod yn fwy a mwy cymhleth a threiddiol. I fi, mae'r sefyllfa hon yn atgyfnerthu pa mor bwysig ydy parhau i ganolbwyntio ar ddefnyddwyr ym mhob cam o'r broses datblygu cynnyrch. Mae gan y tîm yn Empyrean Digital brofiad heb ei ail ac rydyn ni gyd yn angerddol iawn dros yr hyn rydyn ni'n ei wneud. Mae'r profiad a'r angerdd hyn yn bywiogi rhywun, ac mae cael cyfrannu yn fraint enfawr.
Mae fy ngwraig a minnau'n byw yng Nghaerdydd. Mae gennym ni dri o blant ac rydyn ni'n hoffi mynd â nhw i lan y môr, i feicio ac i gerdded ar y bryniau. Dwi'n feiciwr mynydd brwd ac felly dwi byth a hefyd yn cael anafiadau yn y goedwig ac yn treulio nosweithiau lu yn trwsio fy meic yn y garej.