Skip to content

Nicky Tappern

Rheolwr Gyfarwyddwr

Nicky Tappern

Mae Nicky'n cynghori amrywiaeth sylweddol o gleientiaid; ei hangerdd yw cefnogi rhaglenni trawsnewid TG cymhleth, uchel eu risg.

Yn 1997, 'nes i raddio mewn Economeg a Ffrangeg o Brifysgol Abertawe, ac ymuno â Coopers and Lybrand (PwC bellach) yn Llundain.

Drwy gydol fy 21 mlynedd â PwC, ges i'r fraint o weithio gyda nifer o gwmnïau uchel iawn eu proffil, a hynny yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.  Rwyf wedi cyflawni nifer o raglenni sy'n flaenllaw yn y farchnad ac rwy'n falch dros ben o'r ddealltwriaeth unigryw rwyf wedi ei magu o sut mae llwyddo i sicrhau newid sefydliadol cymhleth, uchel ei risg.

Rwy'n arbenigo mewn rhaglenni trawsnewid digidol a masnachol ar raddfa fawr, ac fel Cyfarwyddwr Profiadol, 'nes i arwain arferion Masnachol a Risg Dechnolegol rhanbarthol PwC.

Mae llawer o fy nghleientiaid wedi gofyn am help i gyfuno modelau gweithredu digidol y byd newydd, strwythurau llywodraethu a sylfaen sgiliau sy'n addas ar gyfer byd digidol y dyfodol, a hynny mewn marchnad cyflenwyr gwasanaethau digidol a chynnyrch yn y cwmwl sy'n newid yn barhaus.

Mae arwain tîm Empyrean wedi rhoi boddhad enfawr i fi, ac mae wedi cynnwys arwain y cymorth i'r rhaglen fwyaf yn sector cyhoeddus y Deyrnas Unedig ar gyfer gadael ac ailstrwythuro system TG, yn ogystal â chymorth cynghorol i un o adwerthwyr mwyaf y DU, a rôl gynghori dechnegol ar draws y llywodraeth.  Yn bersonol, rwyf wedi arwain y gwaith o weithredu un o brosiectau data mawr mwyaf cymhleth yn sector cyhoeddus y Deyrnas Unedig ac wedi cynghori ar rai o'r trefniadau masnachol/cyflenwi digidol mwyaf ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Yn fwy personol, rwy'n fam i ddau o blant, Henry a Molly, ac felly anaml iawn mae gen i ddwy funud i fi fy hun! Mae gen i lawer o ddiddordebau a fydda' i ddim yn hanner gwneud pethau. Rwy'n gyfarwyddwr dawns Lladin-Americanaidd, ond nid yw hynny'n fy nghadw mor heini ag y byddwn i'n ei hoffi.