Mae tîm Empyrean yn hollbwysig i ni.
Rydyn ni'n gynhwysol ac yn hybu amrywiaeth. Pan fyddwn yn recriwtio aelodau newydd o'r tîm, rydyn ni'n ystyried deinameg y tîm, yn ogystal â sgiliau a phrofiad yr ymgeisydd. Mae gennym hierarchaeth wastad a'n nod yw gwneud i bawb deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'n bod yn ymddiried ynddynt. Rydyn ni'n credu'n gryf bod gan bob aelod o dîm Empyrean lais, ac rydyn ni'n gwrando'n astud ar eu llais.
Rydyn ni'n adeiladu tîm sy'n ymgorffori'r gwerthoedd canlynol ac sy'n cyd-dynnu i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i gleientiaid:
- Chwilfrydig // Holgar ac yn treiddio'n ddyfnach i gael y gorau.
- Llawn cymhelliant // Ymroddgar ac yn mynnu ansawdd uchel, gydag awydd heintus am ragoriaeth sy'n ysbrydoli pobl eraill.
- Cydweithredol // Onest a thryloyw, gan gydnabod camgymeriadau a mynd ati'n rhagweithiol i geisio safbwyntiau gwahanol.
- Dewr // Ymddiried yn eu greddf, yn gwybod bod rhaid methu weithiau ac yn barod i wneud y penderfyniadau cywir i gwsmeriaid bob amser.
- Arloesol // Eangfrydig, yn gwneud y mwyaf o newid, ac yn barod i herio ffyrdd confensiynol o feddwl.
Rydyn ni'n cael diwrnodau cwrdd i ffwrdd i'r tîm, digwyddiadau cymdeithasol, digwyddiadau adeg y Nadolig a dathliad blynyddol ar benblwydd Empyrean. Rydyn ni'n griw cyfeillgar sy'n rhoi croeso cynnes i aelodau newydd.
Os hoffech chi ymuno â thîm Empyrean, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Llenwch y ffurflen gyswllt a byddwn yn cysylltu â chi.