Skip to content

Rheolwr Cynnyrch

Disgrifiad o'r Swydd

Amcanion

Fel aelod o dîm Empyrean, byddwch yn:

  1. Rheoli cynnyrch ac yn sicrhau canlyniadau llwyddiannus i ni ac i'n cleientiaid (Hanfodol)
  2. Eiriolwr dros reoli cynnyrch ac yn meithrin yr arferion gweithredol gorau (Hanfodol)
  3. Cefnogi ein cyflenwad gwerthu, yn ysgrifennu tendrau ac yn cyflwyno cynigion (Dymunol)
  4. Mabwysiadu meddylfryd cychwyn arni, yn cydweithio, ac yn helpu i sbarduno twf (Dymunol)

Tasgau

  1. Rheoli cynnyrch a sicrhau canlyniadau llwyddiannus i ni ac i'n cleientiaid
    • Creu strategaeth cynnyrch gymhellol sy'n cael ei throi'n fap ffordd cynnyrch y gellir gweithredu arno
    • Rheoli amser, cost ac ansawdd gan ddefnyddiol dull Ystwyth, Rhaeadr neu Hybrid yn ôl yr angen
    •  Cynnal seremonïau cyflawni a hybu cyfranogiad gan gynulleidfaoedd ehangach
    • Ymgysylltu ag uwch randdeiliaid a thimau gwasanaeth gweithredol gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu cryf
    • Sicrhau bod y tîm yn canolbwyntio ar y materion sydd â'r flaenoriaeth uchaf a nodi'r rhwystrau i'w goresgyn
    • Cydweithio â thimau o ymgynghorwyr, dadansoddwyr, technolegwyr a chyflenwyr trydydd parti o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau i ddatblygu atebion cydlynol a chymhellol ar gyfer anghenion defnyddwyr
    • Cymeradwyo straeon defnyddwyr, cynlluniau sbrintiau ac elfennau i'w cyflawni fel bodloni diffiniad cydnabyddedig o gyflawni
  1. Bod yn eiriolwr dros reoli cynnyrch a meithrin yr arferion gweithredol gorau
    • Hybu a hwyluso gwelliannau parhaus i sbarduno cydweithio, cynyddu cyflymder a gwella ansawdd ein rheolwyr cynnyrch
    • Canolbwyntio'n ddi-ildio ar ddefnyddwyr
    • Rhannu gwybodaeth drwy hyfforddi a mentora
    • Cael adborth rheolaidd, gwresog gan gleientiaid a'r tîm
    • Bod yn ased dibynadwy ac angenrheidiol i gleientiaid
  1. Cefnogi ein cyflenwad gwerthu, ysgrifennu tendrau a chyflwyno cynigion
    • Cefnogi cynlluniau strategol ar gyfer y farchnad a chyfrifon i sbarduno datblygiad busnes
    • Helpu i nodi problemau cleientiaid i greu cyfleoedd posib
    • Cefnogi gweithgareddau datblygu busnes, gan gynnwys rhwydweithio, arwain agweddau, tendro, cynnig a sganio'r gorwel i ychwanegu at ein cyflenwad gwerthu
  1. Mabwysiadu meddylfryd cychwyn arni, cydweithio, a helpu i sbarduno twf
    • Bod yn hyblyg a chwilio'n barhaus am gyfleoedd i wella popeth rydyn ni'n ei wneud
    • Helpu i ddiffinio a thracio ein hamcanion a'n canlyniadau allweddol (OKRs)
    • Meithrin rhwydweithiau cryf yn ED i nodi a manteisio ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau mae eraill yn eu harwain