Y briff
Roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru eisiau trawsnewid sut roedd pobl ledled Cymru yn gallu cael mynediad i wybodaeth a chymorth iechyd dibynadwy. Roedd eu hoffer digidol wedi tyfu ar draws nifer o wefannau a gwasanaethau, gan greu profiad bratiog oedd yn anoddach i ddinasyddion ddod o hyd i wybodaeth eglur ac awdurdodol ar faterion iechyd difrifol pan roedden nhw ei angen fwyaf.
Ein dull
Fe wnaethon ni helpu ail-ddylunio’r profiad o amgylch anghenion dinesydd, gyda dull gwbl ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf. Fe wnaethon ni wella cynnwys, gwe-lywio, cyfeirio a defnyddioldeb wrth gydgrynhoi llond llaw o wefannau ar wahân i mewn i ddewis digidol fwy cydlynol. Roedd ein gwaith yn canolbwyntio ar sicrhau bod gwybodaeth iechyd cymhleth yn haws i ddarganfod, i ddeall ac i weithredu arnynt yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan greu profiad mwy cyson a hygyrch ar draws gwasanaethau.
Y canlyniad
Profiad digidol symlach, fwy cysylltiedig yw’r canlyniad sy’n helpu pobl gyrraedd y gwasanaeth a’r cymorth cywir yn gynt – gan wella hygyrch i gynnwys iechyd cyhoeddus dibynadwy sy’n gallu dylanwadu ar benderfyniadau, annog gweithredu cynt a, mewn sawl achos, chael effaith a all newid bywyd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn trafod prosiect gyda ni, cysylltwch, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych.
Cysylltwch â ni
Explore our other work
-
Swyddfa Eiddo Deallusol
Trawsnewid gwasanaethau yn Swyddfa Eiddo Deallusol

-
Y Comisiwn Elusennau
Gwella gwasanaethau’r trydydd sector.
