Rydyn ni'n darparu ateb rheoli gwasanaethau cyflawni ar gyfer systemau wedi'u lletya'n draddodiadol, ar eiddo ac yn y cwmwl. Mae hyn yn cynnwys integreiddio systemau, adeiladu/rhoi ar waith, datrys digwyddiadau, difa chwilod a rheoli capasiti/perfformiad o ddydd i ddydd. Mae nifer o'n cleientiaid hefyd yn dewis defnyddio ein gwasanaethau Datblygu Atebion i wella eu cynnyrch digidol yn barhaus.
“Mae Empyrean Digital wedi bod yn Bartner Digidol i Nofio Cymru am dros dair blynedd. Maen nhw wedi cynnal ein gwefan bresennol a helpu i ddylunio ac adeiladu ein gwefan newydd (gweler y stori newyddion yma). Mae proffesiynoldeb ac effeithlonrwydd y broses gyfan wedi bod yn rhagorol, ac mae Nofio Cymru'n falch iawn o fod yn cychwyn ar gontract pum mlynedd newydd gydag Empyrean Digital. Mae hyn yn dangos cryfder y bartneriaeth a bod Nofio Cymru'n cydnabod y gwerth o weithio gydag Empyrean Digital.”
Jon Fletcher, Pennaeth Datblygu Busnes, Nofio Cymru
Gan ddefnyddio'r wybodaeth rydyn ni'n ei hennill drwy weithredu eich systemau o ddydd i ddydd, gallwn ni ddarparu gwybodaeth graff am fusnes, nid yn unig o ran perfformiad systemau ond am ddefnydd ac ymddygiad cwsmeriaid/defnyddwyr hefyd. Gallwn ni hefyd argymell a gweithredu datblygiadau a gwelliannau parhaus i wasanaethau, gan gynnal tryloywder drwy fetrigau gwasanaeth byw sy'n flaenllaw yn y farchnad.
Rydyn ni'n defnyddio system tocynnau electronig i wneud yn siŵr bod ein cleientiaid yn gallu gweld gwaith yn llawn, gan ddarparu diweddariadau rheolaidd ar y cynnydd a gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein Cytundebau Lefel Gwasanaeth y cytunir arnynt.
Rydyn ni'n hyblyg ac yn teilwra ein pecynnau Rheoli Gwasanaethau i roi'r gwerth gorau i'n cleientiaid. Mae hyn weithiau'n golygu darparu hyfforddiant manwl, ychwanegol er mwyn i'n cleientiaid allu darparu cymorth llinell gyntaf, gan ganiatáu i ni ganolbwyntio ar geisiadau ail linell
Mae ein cynnig Rheoli Gwasanaethau yn cynnwys:
- Rheoli lletya llawn
- Cymorth llinell gyntaf ac ail linell
- Difa chwilod, gwaith cynnal a chadw rheolaidd a diweddaru
- Parhad busnes ac adfer ar ôl trychineb
- Monitro amgylcheddol
- Monitro gwasanaethau yn rhagweithiol ac adrodd ar argymhellion
- Prosesau datblygu/profi/rhoi ar waith awtomataidd
- Hyfforddiant i olygyddion cynnwys wedi'i deilwra i'ch tîm
- Optimeiddio peiriant chwilio
- Adolygiadau hygyrchedd ac ymatebolrwydd
Rydyn ni'n agnostic o ran technoleg, gan ddefnyddio atebion lletya yn y cwmwl AWS ac Azure ar gyfer y cynnyrch digidol rydyn ni'n ei letya.