Disgrifiad o'r Swydd
Amcanion
Fel aelod o dîm Empyrean, byddwch yn:
- Gweithredu atebion datblygu i gleientiaid mewnol ac allanol (Hanfodol)
- Darparu cymorth llinell gyntaf ac ail linell i'n cleientiaid (Hanfodol)
- Gweithio gyda'r tîm i sicrhau'r canlyniadau gorau i ddefnyddwyr ac i'r cleient (Hanfodol)
- Mabwysiadu meddylfryd dechrau arni, yn gweithio ar y cyd ac yn helpu i sbarduno twf (Dymunol)
Tasgau
- Gweithredu atebion datblygu i gleientiaid mewnol ac allanol
- Adolygu manylebau y cytunwyd arnynt a'u defnyddio i ddylunio, codio, profi a dogfennu rhaglenni neu sgriptiau o gymhlethdod amrywiol, gan ddefnyddio'r safonau a'r offer cywir
- Helpu i gwmpasu ac i baratoi amcangyfrifon ar gyfer cwblhau gwaith datblygu
- Cyfrannu at benderfyniadau saernïol technegol yn ôl yr angen
- Ysgrifennu cod glân, diogel, gan ddilyn dull seiliedig ar brofi, sy'n agored yn ddiofyn ac yn hawdd i bobl eraill ei ailddefnyddio
- Adolygu cod sy'n cael ei ysgrifennu gan aelodau eraill o'r tîm a darparu adborth adeiladol yn ôl yr angen
- Gwneud yn siŵr bod meddalwedd monitro ac adrodd, fel Jira, yn gyfredol er mwyn gallu cadw golwg ar gynnydd a bod y tîm yn gallu cydweithio.
- Darparu cymorth llinell gyntaf ac ail linell i'n cleientiaid
- Darparu gwasanaeth cymorth o ansawdd uchel i gleientiaid, gan drwsio namau yn dilyn gweithdrefnau y cytunwyd arnynt, yn brydlon
- Cyflawni tasgau cynnal a chadw ar seilwaith yn ôl yr amserlen ofynnol
- Cynnal adolygiadau diogelwch a gwneud gwaith adfer y cytunir arno
- Cyfathrebu â'r tîm a chleientiaid, a diweddaru'r feddalwedd desg gwasanaeth gyda'r cynnydd.
- Gweithio gyda'r tîm i sicrhau'r canlyniadau gorau i ddefnyddwyr ac i'r cleient
- Tynnu sylw at feysydd i'w gwella mewn codau blaenorol a darparu atebion
- Rhannu gwybodaeth â'r tîm i wneud yn siŵr bod pobl eraill yn gallu codi tasgau
- Mentora aelodau eraill o'r tîm
- Bod yn hyblyg a helpu'r tîm yn ôl yr angen.
- Mabwysiadu meddylfryd dechrau arni, gweithio ar y cyd a helpu i sbarduno twf
- Bod yn hyblyg a chwilio'n barhaus am gyfleoedd i wella popeth rydym yn ei wneud
- Helpu i ddiffinio a chadw golwg ar ein hamcanion a'n canlyniadau allweddol (OKRs)
- Adeiladu rhwydweithiau cryf yn yr ED i nodi a manteisio ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau mae eraill yn eu harwain