Disgrifiad o'r Swydd
Amcanion
Fel Rheolwr Cyflawni ac aelod o dîm Empyrean, byddwch yn:
- Atebol am berfformiad y tîm ac am gyflawni nifer o gynhyrchion a gwasanaethau cymhleth, ac uchel eu risg, yn effeithiol i ni ac i'n cleientiaid (Prif)
- Eiriolwr dros reoli cyflawniad yn ystwyth ac yn meithrin yr arferion gweithredol gorau (Prif)
Tasgau
Mae tasgau wedi cael eu nodi ar gyfer pob amcan.
- Bod yn atebol am berfformiad y tîm ac am gyflawni nifer o gynhyrchion a gwasanaethau cymhleth, uchel eu risg, cydamserol yn effeithiol i ni ac i'n cleientiaid.
- Arferion Ystwyth a Darbodus. Rydych chi'n gwybod sut mae hyfforddi ac arwain timau gydag arferion Ystwyth, Rhaeadr, Hybrid a Darbodus. Rydych chi'n arbenigwr sy'n eirioli dros y dulliau hyn, gan fyfyrio ar y tîm a'i herio'n barhaus. Gallwch greu neu deilwra ffyrdd newydd o weithio; rydych chi'n arloesi drwy'r amser.
- Sgiliau cyfathrebu. Rydych chi'n gallu bod yn ganolwr rhwng pobl a gwella perthnasoedd, gan gyfathrebu â rhanddeiliaid ar bob lefel. Gallwch reoli disgwyliadau rhanddeiliaid a hwyluso trafodaethau ynghylch risg uchel a chymhlethdod, hyd yn oed o fewn amserlenni tyn. Gallwch siarad a chynrychioli'r gymuned i gynulleidfaoedd mawr y tu mewn a'r tu allan i lywodraeth.
- Peidio â gadael i gyflymder cyflawni arafu. Rydych chi'n gwybod sut mae optimeiddio llif cyflawni timau. Rydych chi'n mynd i'r afael â'r risgiau, y problemau a'r dibyniaethau mwyaf cymhleth, gan gynnwys pan fydd perchnogaeth yn bodoli yn y tîm neu nad oes perchnogaeth glir yn bodoli. Gallwch nodi ffyrdd arloesol o ddatrys problemau.
- Sicrhau llwyddiant prosiect. Gallwch nodi a herio prosesau sefydliadol o gynyddu cymhlethdod a'r prosesau hynny sy'n gymhleth heb fod rhaid. Gallwch ychwanegu gwerth a hyfforddi'r sefydliad i archwilio a mabwysiadu prosesau. Rydych chi'n gwybod sut mae arwain timau drwy'r gwaith o roi proses newydd ar waith.
- Cynllunio. Rydych chi'n gwybod sut mae arwain proses gynllunio barhaus mewn amgylchedd cymhleth iawn. Gallwch gynllunio y tu hwnt i gyflawni cynnyrch. Gallwch nodi dibyniaethau mewn cynlluniau ar draws gwasanaethau a chydlynu gwaith cyflawni. Rydych chi'n gwybod sut mae hyfforddi timau eraill fel y pwynt arbenigol canolog.
- Deinameg y tîm a chydweithio. Gallwch nodi problemau yn neinameg y tîm a'u datrys. Gallwch ddod â phroblemau i'r wyneb drwy daro i mewn â'r tîm yn ystwyth ac ennyn yr ymatebion cywir. Gallwch gymryd rhan mewn gwahanol fathau o adborth, gan ddewis y math priodol ar yr adeg briodol a gwneud yn siŵr bod y drafodaeth a'r penderfyniad yn glynu. Gallwch gyflymu cylch datblygu'r tîm.
- Rheoli ariannol. Rydych chi'n gwybod sut mae trafod, dylanwadu neu osod cyllidebau mewn amgylcheddau cymhleth. Gallwch ysgrifennu achosion busnes neu gyfrannu atynt, a chyfathrebu cynigion ynghylch gwerth busnes.
- Safbwynt cylch oes. Gallwch ddefnyddio profiad o wahanol rannau o gylch oes cynnyrch. Gallwch gydnabod yr amser iawn i symud ymlaen a'r amser iawn i oedi. Gallwch adnabod yr elfennau priodol i'w cyflawni a'r bobl gywir i wneud hyn. Gallwch weithio gyda gweithrediadau cyflawni ystwyth eraill drwy gydol cylch oes cynnyrch. Gallwch gynllunio ac ymgysylltu a'r rhanddeiliaid priodol ar gam penodol yn y prosiect.
- Bod yn eiriolwr dros reoli cyflawniad yn ystwyth ac yn meithrin yr arferion gweithredol gorau
- Hybu a hwyluso gwelliant parhaus i sbarduno cydweithio, i gynyddu cyflymder ac i wella ansawdd ein harferion rheoli cyflawniad
- Rhannu gwybodaeth drwy hyfforddi a mentora
- Cael adborth cadarnhaol, rheolaidd gan gleientiaid a'r tîm
- Bod yn ased dibynadwy ac angenrheidiol i gleientiaid