Neidio i'r cynnwys

Swyddfa Eiddo Deallusol

Trawsnewid gwasanaethau yn Swyddfa Eiddo Deallusol

Y briff

Roedd y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) eisiau trawsnewid sut roedd cwsmeriaid yn gwneud cais, rheoli ac yn cyfathrebu gyda phatentau, nodau masnach a dyluniadau cofrestredig trwy wasanaeth digidol sengl, integredig. Y canlyniad yw rhaglen One IPO sydd yn un o’r newidiadau fwyaf sylweddol o fewn hanes 170 mlynedd y sefydliad, yn rhychwantu technoleg, gweithrediadau, cynnyrch, llywodraethiant a newid sefydliadol.

Ein dull

Rydyn ni wedi gweithio law yn llaw â’r Swyddfa Eiddo Deallusol fel ei phartner trawsnewidiad ochr-cleient, gan gefnogi’r rhaglen o ddylunio i gyflawni. Mae ein rhan wedi cyfuno cyngor strategol i uwch-arweinyddiaeth gyda chyflawni ymarferol ar draws y rhaglen – gan gryfhau cyflawni lle mae’r angen fwyaf, cywiriadau cwrs pan mae heriau’n codi, a darparu arweinyddiaeth ar draws cyflawni rhaglen, cynnyrch, llywodraethiant, achosion busnes a chymeradwyaeth cyllid.

Y canlyniad

Pasiodd Cyfnod 1 ei asesiadau gwasanaeth yn llwyddiannus a nawr yn Feta Gyhoeddus yn llwyddiannus. Rydyn ni’n parhau i gefnogi’r Swyddfa Eiddo Deallusol trwy’r cyfnod nesaf o One IPO, gan helpu cynnal momentwm, rheoli cymhlethdodau a chyflawni’r uchelgais trawsnewid ehangach.

Os oes gennych ddiddordeb mewn trafod prosiect gyda ni, cysylltwch, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych.

Cysylltwch â ni

Archwiliwch ein gwaith arall